DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

TEITL

Presenoldeb yn y cyfarfod rhynglywodraethol ar 16 Mai

DYDDIAD

09 Mehefin 2022

Gan

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

 

 

Yn unol â’r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol, rwy’n eich hysbysu y cafodd cyfarfod arall y Grŵp Rhyngweinidogol – yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ei gynnal ar 16 Mai.

 

Yn bresennol yn y cyfarfod roedd Edwin Poots ACD, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (Cadeirydd); George Eustice AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Llywodraeth y DU; Victoria Prentis AS, Gweinidog Gwladol, DEFRA, Llywodraeth y DU; Mairi McAllan, Gweinidog yr Amgylchedd a Diwygio Tir, Llywodraeth yr Alban; Lorna Slater ASA, Gweinidog Sgiliau Gwyrdd, yr Economi Gylchol, a Bioamrywiaeth, Llywodraeth yr Alban.

 

Yn ystod y cyfarfod, gwnaethom ailystyried yr argyfwng yn Wcráin a’r effaith ar gostau cynhyrchu gwrteithiau, bwydydd anifeiliaid a thanwydd. Gwnaethom hefyd drafod trefniadau rhoi anifeiliaid anwes mewn cwarantin, a phwysais ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd y byddai lleoedd ar gael mewn cyfleusterau cwarantin ar gyfer pob gwlad yn y DU ni waeth beth yw’r gwahaniaethau rhwng eu polisïau.

 

Darparodd Llywodraeth y DU bapur yn nodi ei safbwynt diweddaraf ynglŷn â pharatoadau ar gyfer rheoli ffiniau, a chadarnhaodd na châi rhagor o fesurau rheoli mewnforion eu cyflwyno yn ystod 2022. Nodais fy mhryderon, unwaith eto, fod gwiriadau’n cael eu hoedi, a hynny heb ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig ymlaen llaw – mae hwn yn ymddygiad sydd wedi datblygu’n batrwm braidd o ran Llywodraeth y DU. At hynny, nodais bryderon fy Mhrif Swyddog Milfeddygol ynghylch goblygiadau’r oedi i fioddiogelwch, yn ogystal â siom rhanddeiliaid oherwydd y diffyg tegwch rhwng mewnforwyr ac allforwyr, sy’n rhoi cynhyrchwyr domestig dan anfantais o ran cystadlu.  

 

 

 

Nododd Llywodraeth y DU ei rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol ynghyd â’i chynigion yn deillio o araith y Frenhines, a oedd yn cynnwys Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl); Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir); Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) a Bil Caffael.

 

Daeth Llywodraeth yr Alban â’r cyfarfod i ben drwy gyflwyno’i fframwaith ar gyfer dyfodol polisïau ym maes amaethyddiaeth yn yr Alban, sy’n canolbwyntio ar fentrau diwygio tir, adfer natur a ffermio cynaliadwy. Mae’r Alban yn dilyn trywydd tebyg i Gymru, gyda system o gymorth sylfaenol a thaliadau amodol ychwanegol sy’n seiliedig ar ganlyniadau ar gyfer yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Gwnaethom gytuno y câi’r cyfarfod nesaf ei gynnal wyneb yn wyneb ddydd Mercher, 20 Gorffennaf, yn ystod Sioe Frenhinol Cymru, pan fwriadaf nodi cynigion amaethyddol Cymru i’r dyfodol.  

 

Caiff hysbysiad ynglŷn â’r cyfarfod hwn ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU yn:

 

Communiqués from the Inter Ministerial Group for Environment, Food and Rural Affairs (Saesneg yn Unig)